Gwasanaethau Ariannol Elidir Financial services Gwasanaethau Ariannol Elidir Financial services

Y gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaethau Ariannol Elidir
English
Croeso i Wasanaethau Ariannol Elidir
Ynglyn â Gwasanaethau Ariannol Elidir
Y gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaethau Ariannol Elidir
Rhai o Gwsmeriaid Gwasanaethau Ariannol Elidir
Y newyddion diweddaraf o Wasanaethau Ariannol Elidir
Sut i gysylltu â Gwasanaethau Ariannol Elidir
Rhai dolenni defnyddiol o Wasanaethau Ariannol Elidir
Mae Gwasanaethau Ariannol Elidir yn cynnig cyngor ar y meysydd canlynol i'r unigolyn ac i'r sector busnes:-

Noder: Nid yw'r Awrdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn rheoleiddio cyfrifon cadw,
  rhai morgeisi a chyngor treth. 

 
Ewyllysiau a Chynllunio Ystad

Gwelwch ein tudalen Ewyllysiau am fwy o fanylion

Cynilion/Buddsoddiadau

Cynnig cyngor ar amrywiaeth eang o fuddsoddiadau, megis 

Cyfrifon Cadw, Cyfrifon Cynilo Unigol (ISA's), Ymddiriedolaethau Unedol a Chwmnïau Buddsoddi Pen Agored (OEIC’s), Bondiau Buddsoddi, ac unrhyw Gynlluniau Ecwiti Personol (PEP’s) cyfredol. 

Rhoddir cyngor hefyd ar amrywiaeth o gynlluniau cynilo rheolaidd. 

 
Diogelwch
Personol – Darparu cyfandaliad neu incwm ar farwolaeth neu ddiagnosis o salwch angheuol cymar neu bartner. Sut fyddech chi'n ymdopi'n ariannol ar ôl colli cymar/partner?

Morgais – Darparu cyfandaliad ar farwolaeth neu ddiagnosis o salwch angheuol sy'n cyfateb i'r hyn sy'n weddill o'ch morgais.

Busnes neu Gyfranddaliwr – Darparu amddiffyniad yn erbyn marwolaeth neu salwch angheuol ar gyfer Cyfarwyddwr neu Unigolyn Allweddol o fewn eich busnes. A fyddai eich busnes yn gallu parhau pe baech chi neu Unigolyn Allweddol arall yn marw neu'n cael diagnosis o salwch angheuol?

Diogelu Incwm – darparu incwm wrth gefn pe baech yn methu gweithio oherwydd damwain neu salwch. Beth fyddai'n digwydd i chi a'ch teulu pe bai eich incwm rheolaidd yn dod i ben?

Treth Etifeddol/Cynllunio Ystâd 
Yn dilyn y cynnydd diweddar mewn prisiau tai bydd mwy a mwy o bobl ar ôl eu marwolaeth yn pasio rhan o'u hystad i Gyllid y Wlad yn hytrach na'u hetifeddion oni bai eu bod yn cael cyngor i leihau neu negyddu'r dreth yma.

Ymddeoliad a Phensiynau 
Yn ddamcaniaethol, dylai cyfanswm taliadau i gynlluniau pensiwn fod heb derfyn iddynt o Ebrill 20Yn ddamcaniaethol, dylai cyfanswm taliadau i gynlluniau pensiwn fod heb derfyn iddynt o Ebrill 2006. Fodd bynnag ar gyfer taliadau unigol a thaliadau llawn mae terfynau ar ostyngiadau treth.Y Lwfans Flynyddol ar gyfer taliadau unigol sydd yn derbyn gostyngiad treth yw £3,600 neu 100% o enillion, pa un bynnag sydd fwyaf. Y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth 2010/11 yw £255,000. O 2011/12 tan 2015/16, bydd yn £50,000. Wedi hynny, disgwylir i fod yn gysylltiedig â mynegai. 

Fodd bynnag, nid oes rhaid i gynlluniau pensiwn fod yr unig ffordd i’ch paratoi ar gyfer ymddeoliad, gan ei bod hefyd yn bosibl i wneud defnydd o fuddsoddiadau eraill. 
A ydych chi wedi paratoi’n ddigonol ar gyfer ymddeoliad?


Addysg Bellach/Prifysgol
A ydych chi wedi ystyried y gost o anfon eich plentyn/plant ymlaen i addysg bellach? Nid yw'r rhan fwyaf o rieni'n meddwl am gynilo nes bod eu plant ar fin gadael am y brifysgol. Cyfran fechan o gyfanswm y gost o fynd i brifysgol yw ffioedd dysgu, gyda'r rhan fwyaf o'r gost yn gysylltiedig â chostau byw. A ydych chi wedi gwneud darpariaeth ar gyfer addysg bellach eich plentyn/plant?

 
Designed by Delwedd.co.uk Cliciwch yma
 

Mae Gwasanaethau Ariannol Elidir Financial Services wedi ei awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol