|
Bydd mynd ati i gynllunio eich ystâd yn tynnu eich sylw at y pethau sy’n bygwth eich cyfoeth ac sydd yn mynd heb sylw yn rhy
aml. Mae’r broses yn caniatáu i chi drosglwyddo eich cyfoeth yn y dull mwyaf effeithiol o ran costau a
threthi.
Mae eich Ewyllys yn penodi’r rhai yr ydych chi am eu cael i ofalu am eich ystâd ac yn sicrhau fod eich eiddo yn mynd i’r buddiolwyr yr ydych chi wedi eu dewis yn
unig.
Dychmygwch y tawelwch meddwl a gewch chi o wybod - beth bynnag sy’n digwydd – eich bod chi wedi gwneud eich gorau dros eich anwyliaid a’ch hoff
elusennau.
A dyma bethau eraill i gnoi cil arnynt …
Rhaid gwerthu cartrefi yn aml i dalu costau gofal tymor-hir; mae cynllunio cynnar i leihau’r risg rhag i hyn ddigwydd yn
hanfodol.
Beth am ddamweiniau difrifol, anabledd neu salwch nad oes gwella
ohono? Yn unrhyw oed, gall unrhyw un ohonom ddod i’w chael yn amhosibl gofalu am ein
materion. Beth allai fod yn waeth na pheidio â chael rhywun y mae gennym hyder ynddynt i ofalu am ein materion ar ein
rhan?
Byddwn ni yn eich helpu i wynebu’r ffeithiau bywyd anodd hyn mewn cyfarfod sydd yn rhad ac am ddim ac heb unrhyw ymrwymiad a hynny ym mhreifatrwydd eich
cartref.
Rydym yn cynnig perthynas broffesiynol am oes – gan eich galluogi chi i wynebu heriau’r dyfodol wrth i’ch amgylchiadau
newid.
Gobeithio y byddwch fyw am nifer o flynyddoedd llewyrchus a hapus ac rydym yn edrych ymlaen i roi gwasanaeth i chi ac i’r rhai sy’n annwyl i chi.
Beth bynnag sy’n
digwydd, eich dyfodol chi ydy o.
Gallwn eich helpu chi a’ch teulu gyda’r ystyriaethau
canlynol:
Trefnu eich Materion, Cynllunio Diogelu Ystâd ac Asedau ---
Ewyllysiau, Gwneud Cymynroddion ac Ymddiriedolaethau Ewyllys – Cynllunio Treth Etifeddiant – Llythyrau Eithriad -- Memorandwm o Ddymuniad – Penderfyniadau Rhag Blaen
(Ewyllysiau Byw) – Pwerau Atwrnai Parhaol – Pwerau Atwrnai Cyffredinol – Cofrestru Pwerau Atwrnai – Cytundebau Cyfrifoldebau Rhiantu – Cofrestr Ewyllysiau a Chadw Dogfennau – Cynlluniau Angladd Wedi Eu Talu Amdanynt Ymlaen Llaw – Gwasanaethau Gweinyddu Profiant ac Ystâd – Pryniant Eiddo ac Ewyllysiau Tramor – Gwasanaethau Cyfreithiol Tramor – Cyngor Treth Arbennigol – Cynllunio Etifeddiad Busnes
Nid yw cynllunio ystadau a darpariaeth ewyllysiau yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau
Ariannol.
|