Gwasanaethau Ariannol Elidir Financial services Gwasanaethau Ariannol Elidir Financial services

Morgeisiau
English
Croeso i Wasanaethau Ariannol Elidir
Ynglyn â Gwasanaethau Ariannol Elidir
Y gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaethau Ariannol Elidir
Rhai o Gwsmeriaid Gwasanaethau Ariannol Elidir
Y newyddion diweddaraf o Wasanaethau Ariannol Elidir
Sut i gysylltu â Gwasanaethau Ariannol Elidir
Rhai dolenni defnyddiol o Wasanaethau Ariannol Elidir
 Arweinwyr tîm morgeisi Elidir gan Paul Dean. Mae ganddo  flynyddoedd o brofiad o roi cyngor morgeisi.

Mae yno sawl math o Forgeisi i'w hystyried ym marchnad amrywiol heddiw. Yn y lle cyntaf byddem yn argymell i chi edrych ar y dewisiadau gwahanol o ad-dalu eich benthyciad. Dyma rai dewisiadau i chi eu hystyried:

Noder: Nid yw'r Awrdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn rheoleiddio cyfrifon cadw,
 rhai morgeisi a chyngor treth.

 

Dulliau o Ad-dalu
Ceir dau ddull gwahanol o ad-dalu sydd ar gael i chi ac mae'r rhain fel a ganlyn:

Cyfalaf a Llog – Dyma lle telir cyfran o'r swm a fenthyciwyd ynghyd â llog ar y swm sy'n weddill i'r Benthyciwr bob mis. Dros gyfnod y morgais mae'r swm sy'n weddill yn lleihau nes bod y swm llawn a fenthyciwyd wedi ei dalu yn ôl erbyn diwedd y cyfnod a gytunwyd. 

  
Llog yn Unig – Dyma lle telir y llog yn unig ar y swm a fenthyciwyd yn uniongyrchol i'r Benthyciwr am y cyfnod a gytunwyd i gyd. Ar ddiwedd y cyfnod a gytunwyd, mae'r swm gwreiddiol a fenthyciwyd yn daladwy fel un cyfandaliad.

Lle dewisir morgais Llog yn Unig, mae angen cael ffordd o dalu'r cyfandaliad o arian ar ddiwedd y cyfnod. Mae ffyrdd addas o sicrhau hyn yn cynnwys Cynlluniau Gwaddol (Endowment), Cyfrifon Cynilo Unigol (ISA), Cynlluniau Pensiwn Personol a Chynnyrch Cynilo Rheolaidd eraill.

Mathau o Gyfradd Llog
Mae yno sawl math gwahanol o ‘Gyfraddau Llog’ sy'n cael eu codi gan Fenthycwyr ar y cyfalaf sy'n weddill bob mis. Y rhain yw:

Cyfradd Newidiol – Dyma lle gall y Benthyciwr amrywio'r llog sy'n cael ei godi ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y morgais. Mae'r gyfradd sy'n cael ei phennu yn uniongyrchol gysylltiedig â swm y log y mae’r Benthyciwr yn barod i'w dalu ar gynilion/cyfrif cadw ei gwsmeriaid.
  1. Manteision - Fel rheol nid oes yno dâl am gyflwyno cais neu drefnu. Anaml y ceir unrhyw dâl am ad-dalu'n fuan. Bydd eich taliadau misol yn gostwng gydag unrhyw ostyngiad mewn cyfraddau llog. Hyblygrwydd. 
  2. Anfanteision - Bydd eich taliadau misol yn codi gydag unrhyw gynnydd mewn cyfraddau llog. Nid yw'n rhoi'r gallu i chi gyllidebu ar gyfer ad-daliadau.

Cyfradd Sefydlog - Dyma lle mae'r Benthyciwr yn cytuno i godi cyfradd llog sefydlog ar y swm sy'n weddill am gyfnod a gytunir. Bydd y gyfradd a gytunir gan y Benthyciwr yn ddibynnol ar y cyfnod a bennwyd ar gyfer y llog sefydlog. Bydd maint y gyfradd a bennir yn cyfateb i hyd y cyfnod.

  1. Manteision - Ad-daliadau Morgais wedi'u Gwarantu ar hyd y cyfnod cyfradd sefydlog. Amddiffyniad rhag cynnydd mewn cyfraddau log. Mae'n darparu amrywiaeth o gyfnodau cyfradd sefydlog o gyn lleied â 6 mis.
  2. Anfanteision - Ni fyddwch yn elwa o ostyngiadau yn eich taliadau misol pe bai cyfraddau llog yn gostwng. Fel rheol bydd yno ddirwy ar ad-dalu'n fuan o ad-daliadau sawl mis.

Cyfradd ar Ddisgownt - Dyma lle mae'r Benthyciwr yn cytuno caniatáu disgownt i'r sawl sy'n cael benthyciad ar y Gyfradd Newidiol am gyfnod o amser a gytunir rhyngddynt, ac yn dilyn hynny bydd y sawl sy'n cael benthyciad yn talu yn ôl y gyfradd newidiol.

  1. Manteision - Mae'n rhoi ad-daliad llai dros gyfnod y disgownt. Bydd ad-daliadau'n gostwng gyda gostyngiadau mewn cyfraddau llog. 
  2. Anfanteision - Bydd ad-daliadau'n cynyddu wrth i gyfraddau llog gynyddu. Efallai bydd angen talu tâl trefnu ymlaen law. Fel rheol bydd dirwy ad-dalu'n fuan ynghlwm â'r cynnig.

Cyfradd wedi'i Chapio - Dyma lle mae'r Benthyciwr yn cytuno y bydd y sawl sy'n cael benthyciad yn talu'r Gyfradd Llog Newidiol ond, am gyfnod a gytunir, bydd y cynnydd Cyfradd Newidiol yn cael ei chapio ar lefel a gytunir, ac ni fydd y sawl sy’n cael benthyciad yn talu tâl uwchben y terfyn a gytunir. Ar ddiwedd cyfnod y gyfradd wedi'i chapio bydd y sawl sy'n cael benthyciad yn talu yn ôl y Gyfradd Newidiol.

  1. Manteision - Mae'n rhoi cyfradd llog wedi'i warantu i chi ac ni ellir codi mwy na hynny arnoch. Os yw cyfraddau llog yn gostwng bydd eich ad-daliadau misol yn gostwng hefyd.
  2. Anfanteision - Bydd angen talu tâl trefnu fel rheol. Fel rheol hefyd, bydd yno ddirwy ad-dalu'n fuan o ad-daliadau sawl mis.

Trwy gydol o broses o drefnu eich morgais, bydd Paul  yn eich hysbysu o gostau a ffioedd cyffredinol sy'n gysylltiedig â sefydlu a chynnal eich morgais. Bydd y rhain yn cynnwys Ffioedd Cyfreithiwr, Ffioedd Syrfëwr, Ffioedd trefnu, Premiwm Gwarant Indemniad Morgais (MIG) os yw'n berthnasol, Ffioedd cofrestru Tir a Threth Stamp.

Rhai pethau eraill i'w cadw mewn cof:

Polisïau Diogelu Morgais ac Yswiriant Adeiladau
Fe allai methu sicrhau bod gennych drefniadau digonol yn eu lle i ad-dalu'r morgais arwain i chi golli eich cartref. Eich cyfrifoldeb chi nid y Benthycwyr yw sicrhau bod y trefniadau hyn yn eu lle. Mae nifer o Bolisïau Diogelu Morgais ac Yswiriant Adeiladau ar gael gan y Benthyciwr a Chyfryngwyr Annibynnol sy'n cwrdd â'r gofynion hyn. Mae'r rhain yn dod i fewn i dri phrif gategori: 

  1. Trefniadau a gynlluniwyd i gynnwys cost atgyweirio/ailadeiladu'r eiddo. Fel rheol mae hyn yn ofynnol gan y Benthyciwr ar ffurf Yswiriant Gorfodol.
  2. Trefniadau a gynlluniwyd i ad-dalu'r Morgais yn llawn rywbryd yn y dyfodol, naill ai yn dilyn marwolaeth, salwch difrifol neu ar ôl cael y swm gofynnol trwy fuddsoddi swm rheolaidd o arian.
  3. Trefniadau a gynlluniwyd i ddarparu budd-dâl misol a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gynnal y taliadau misol y mae'n rhaid i chi eu talu pe baech yn dioddef cyfnod o salwch, damwain, diweithdra neu golli eich swydd.


Gall eich cartref gael ei adfeddiannu os na chadwch at eich taliadau morgais.

Designed by Delwedd.co.uk Cliciwch yma
 

Mae Gwasanaethau Ariannol Elidir Financial Services wedi ei awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol